MAE'R Nadolig wedi’i ganslo!

Mae trol yn rhydd ar y mynyddoedd ac mae’n fwli mawr cas.

Yr unig obaith sydd ar ôl yw merch fach a’r iâr ddof sydd ganddi.

Wedi’r cwbl, bod yn feiddgar, yn ddeallus ac yn ddewr sy’n bwysig...

Mewn dilyniant i gynhyrchiad eithriadol lwyddiannus y llynedd, Llew a’r Crydd, mae’r brodyr Metso (Siôn Eifion) a Cwilsyn (Siôn Emyr) yn dychwelyd, eleni gyda chymorth y ddawnswraig Ballera (Elan Catrin Elidyr), i gasglu straeon o bob cwr o’r byd cyn iddyn nhw ddiflannu.

Yn sioe Nadolig berffaith ar gyfer plant 4 i 7 oed a’u teuluoedd, mae Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig yn antur Nadolig yn Gymraeg sy’n cynnwys caneuon, cerddoriaeth, dawnsio, gwaith pypedau, y gynulleidfa’n cymryd rhan a digonedd o hud.

Cyfle i ENNILL TOCYN TEULU!

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnig tocyn teulu (2 + 2) i weld y sioe yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug rhwng Rhagfyr 27-30.

I gymryd rhan atebwch y cwestiwn isod dros e-bost erbyn 5pm ar Rhagfyr 17:

Pa fath o anifail anwes sydd gan Seren, y ferch fach yn stori Y Trol Wnaeth Ddwyn y Dolig?

a)Eliffant, b) Iâr, c) Dinosor.

E-bostiwch eich ateb gyda’ch enw a’ch rhif ffôn at menter@misirddinbych.cymru

Ni fydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu cadw at unrhyw ddiben arall heb law am y gystadleuaeth hon. Nid yw’r gystadleuaeth ar agor i staff Theatr Clwyd na Mentrau Iaith.