MAE arolwg wedi’i lansio arolwg er mwyn helpu i wella’r cymorth a roddir i ofalwyr sy’n oedolion yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o waith Cyngor Sir Ddinbych i gefnogi gofalwyr, mae’r arolwg yn holi ynglyn â mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth gyda’r nod o wella’r hyn sydd ar gael.

Dywedodd y Cyng Bobby Feeley, yr aelod arweiniol llesiant ac annibyniaeth: “Un o flaenoriaethau’r cyngor yw gweithio gyda phobl a chymunedau i hybu annibyniaeth a chadernid, ac mae cefnogi gofalwyr yn rhan o hynny.

“Mae arnom ni eisiau gwella’r gefnogaeth rydym ni’n ei chynnig i ofalwyr yn Sir Ddinbych, ac i wneud hynny mae arnom ni angen eich cymorth chi.

"Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n gofalu am deulu a ffrindiau yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu’r bobl hynny i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.

"Rydym eisiau sicrhau bod ein dinasyddion sy’n gofalu yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth o’r radd flaenaf i hybu eu canlyniadau llesiant personol.”

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg os ydych chi’n oedolyn sy’n darparu cymorth a chefnogaeth yn rheolaidd heb dâl i aelod o’r teulu, partner neu ffrind sy’n fregus neu’n anabl, sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol, neu sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau.

Mae arolwg ar wahân eisoes wedi’i gynnal ar gyfer gofalwyr dan ddeunaw.

I gwblhau’r arolwg ewch i countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/427